Mae'r adran hon yn rhoi esboniadau o dermau penodol y gellir dod o hyd iddyn nhw yng nghofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru drwyddynt draw.
Cliciwch ar y cyfnodau isod i ddysgu mwy.
Mae Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru'n cynnwys gwybodaeth am fwy na 100,000 o safleoedd archaeolegol yng Nghymru. Mae rheoli'r wybodaeth hon yn galw am safonau mynegeio da a dulliau effeithlon o adfer gwybodaeth.
Dan arweiniad y Comisiwn Brenhinol, a chyda chymorth cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru a Cadw, mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru wedi bod wrthi'n datblygu thesawrws o fathau o henebion yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod termau mynegeio wedi'u safoni ledled Cymru. Y bwriad hefyd yw llunio fersiwn Gymraeg o'r thesawrws.
Chwilio'r thesawrws o Fathau o Safleoedd yng Nghymru. yma