Nodwedd o’r cyfnod Neolithig yw amaethu planhigion a dofi anifeiliaid, cyflwyno crochenwaith a bwyeill carreg caboledig, ac adeiladu’r tai a’r cofadeiliau cyntaf. Cliriwyd llawer ar goedwigoedd a defnyddiwyd strwythurau cerrig a phridd ar gyfer claddu ac i roi canolbwynt ar gyfer bywydau ysbrydol cymdeithasau. Er i fywyd ddod yn fwy sefydlog, y farn yw ei bod yn bosibl i elfennau o’r ffordd grwydrol o fyw barhau am rywfaint. Yr arteffactau sy’n dod i’r amlwg amlaf o’r amser hwn yw offer fflint.