Yn ystod y cyfnod eang iawn o’r enw Paleolithig neu Hen Oes y Cerrig, fe ddatblygodd cyndeidiau bodau dynol cyfoes offer cerrig ac roedden nhw’n byw bywyd crwydrol ar drywydd yr anifeiliaid yr oedden nhw’n eu hela, tra’u bod hefyd yn casglu bwyd o blanhigion. Mae’r dystiolaeth hynaf o weithgarwch dynol yng Nghymru'n dyddio i oddeutu 220,000CC pan roedd Neanderthaliaid yn byw yn Ogof Pontnewydd yn y Sir Ddinbych fodern. Prin iawn yw’r dystiolaeth sy’n goroesi o fywyd dynol yn ystod y cyfnod hwn, i raddau helaeth oherwydd lefelau’r môr yn codi gan foddi’r glaswelltiroedd a’r ardaloedd arfordirol yr oedd pobl yn eu ffafrio bryd hynny. Roedd bodau dynol modern wedi dod i’r amlwg erbyn diwedd y cyfnod Paleolithig.