Rhoddir yr enwau Oesoedd Tywyll ac Oes y Saint ar y cyfnod hwn hefyd, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng rheolaeth Rufeinig yn methu a Choncwest y Normaniaid. Lledaenodd Cristnogaeth a daeth teyrnasoedd ac iaith Cymru i’r amlwg yn y cyfnod hwn, er iddyn nhw ddod dan bwysau o du grwpiau o Wyddelod, Llychlynwyr ac Eingl-Sacsoniaid. Prin yw’r wybodaeth am anheddu, er i bobl symud yn ôl i fyw mewn rhai o'r bryngeyrydd o Oes yr Haearn. Y gweddillion mwyaf gweledol ac eiconaidd yw cofebion carreg wedi’u cerfio i unigolion, â’r ysgrifen mewn Lladin neu’r wyddor Ogam Wyddelig, a cherrig croes wedi’u cerfio a cherfluniau carreg o gyfnod ychydig yn ddiweddarach.