Erbyn hyn, byddai cymdeithasau a fyddai gynt yn dibynnu ar fflint a charreg fel y prif ddeunyddiau ar gyfer gwneud offer ac arfau’n dechrau defnyddio copr ac efydd hefyd. Mae’n ymddangos i’r gymdeithas ei hun newid yn ystod y cyfnod hwn, gan symud i ffwrdd o ganolbwynt ar y grwp i ganolbwynt ar yn unigolyn; mae symud o gladdu pobl gyda’i gilydd i gladdu neu amlosgi unigolion yn awgrymu hyn. Efallai fod hyn yn awgrymu datblygiad hierarchaethau yn y gymdeithas a mewnfudiad pobl neu syniadau newydd o’r cyfandir. Mae yna dystiolaeth hefyd o fwy o gystadlu am reoli tir, gan arwain at ddechrau bywyd llwythol a rhyfela.