Amdanom Ni
Crëwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent Cyf (GGAT) ym 1975, ac mae'n gwmni elusennol. Ei brif amcan yw addysgu'r cyhoedd mewn archaeoleg. Rydym yn ymdrin yn bennaf ag ardal De-ddwyrain Cymru, ac rydym yn un o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru sy'n cwmpasu Cymru gyfan.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymgymryd â gwaith ar ran cyrff llywodraethol ac anllywodraethol a sefydliadau'r sector preifat. Mae'n berchen ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, yn ei gynnal ac yn ei ehangu'n barhaus. Yn y cofnod hwn ceir gwybodaeth am fwy na 25,000 o safleoedd archaeolegol a hanesyddol a henebion, ac mae'n brif offeryn ar gyfer addysg ac ymchwil.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaeth cynllunio archaeolegol a ariennir ar y cyd gan yr Awdurdodau Unedol a Cadw. Ar hyn o bryd, mae mwy na 18,000 o geisiadau cynllunio'n cael eu gwirio bob blwyddyn o safbwynt goblygiadau i'r Amgylchedd Hanesyddol. Cynghorir ar y camau i'w cymryd i sicrhau bod asesiadau priodol yn cael eu cwblhau a bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod buddiannau'r Amgylchedd Hanesyddol yn cael eu diogelu.
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn rhoi cyngor cyffredinol trwy ei Gwasanaethau Rheoli Treftadaeth i amrywiaeth o sefydliadau a mudiadau, gan gynnwys yr Awdurdod Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymgymerwyr Statudol, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Eglwys yng Nghymru. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn orsaf adrodd ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy.
Mae'r Ymddiriedolaeth, trwy ei thimau Prosiectau, yn ymgymryd ag asesiadau, gwerthusiadau, arolygon, cynlluniau goruchwylio, gwaith cofnodi adeiladau a gwaith cloddio yn Ne Cymru ac mewn mannau eraill. Mae'n ymwneud yn helaeth â llawer o ddatblygiadau o bwys yn yr ardal. Ar ben hyn, mae staff Prosiectau'n gwneud gwaith asesu henebion a nodweddu'r dirwedd hanesyddol ledled yr ardal, â'r bwriad o wella'r sail gwybodaeth a thystiolaeth i gefnogi gwarchod yr amgylchedd hanesyddol yn well. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu agendâu ymchwil trwy gyhoeddi ei gwaith. Mae'n hybu gwybodaeth a dysgu am y gorffennol trwy gyhoeddiadau, arddangosfeydd, taflenni, darlithoedd a sgyrsiau, ac mae'n ceisio cynnwys cymuned De-ddwyrain Cymru yn ei gwaith.