Y cyfnod Mesolithig yw’r cyfnod rhwng diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf a chyflwyno ffermio i Ynysoedd Prydain. Roedd bywyd yn dal i fod yn grwydrol, yn ôl pob tebyg ar sail y tymhorau newidiol. Byddai pobl yn adeiladu llochesi dros dro wrth iddyn nhw hela anifeiliaid â chwn a oedd newydd eu dofi, pysgota a chasglu bwyd ar hyd yr arfordir a chasglu mwyar, cnau a gwreiddlysiau. Mae yna dystiolaeth hefyd bod bodau dynol wedi trin y dirwedd er mwyn cael rheolaeth dros yr anifeiliaid gwyllt yr oedden nhw’n dibynnu arnyn nhw’n fawr. Darganfyddiadau nodweddiadol o’r cyfnod hwn yw offer fflint bychain o’r enw microlithau.