Ers dechrau’r 20fed ganrif, mae Cymru wedi gweld dau Ryfel Byd a chwymp y diwydiannau trwm a diwydiannau echdynnu. Er 1945, mae ffermio wedi dod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon o lawer, er bod nifer y ffermydd a’r bobl sy’n gweithio arnyn nhw wedi gostwng. Mae codi ffermydd gwynt a chynlluniau trydan dwr, a phlannu coedwigoedd conifferaidd ar yr uwchdiroedd, wedi newid y dirwedd. Mae cefn gwlad hefyd wedi gorfod addasu i bwysau hamdden a thwristiaeth tra bo trefi wedi parhau i ehangu, gan arwain at fygwth eu cymeriad hanesyddol.