I gael mwy o wybodaeth sy'n ymwneud â hanes ac archaeoleg Cymru, neu i weld casgliadau cofnodion eraill, dewiswch ddolen isod.
Mynd i brif Archwilio yn chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru. www.archwilio.org.uk
Mae porth Cymru Hanesyddol yn caniatáu chwilio cannoedd o filoedd o gofnodion ar yr un pryd, sef cofnodion sy'n ymwneud â henebion archaeolegol, adeiladau hanesyddol ac arteffactau y mae gwahanol sefydliadau ledled Cymru'n eu dal. Mae hyn yn cynnwys y rheini y mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a CBHC yn eu dal, yn ogystal â data Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig y mae Cadw'n eu dal, a chofnod darganfyddiadau Amgueddfa Cymru.www.historicwales.gov.uk
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) o ddata y mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru'n eu dal. Mae Coflein yn caniatáu cyrchu manylion miloedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd morol yng Nghymru, ac yn darparu mynegai i ddarluniau, llawysgrifau a ffotograffau sy'n cael eu dal yng nghasgliadau archif CHCC. www.coflein.gov.uk
Cadw sy'n gyfrifol am warchod amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol, ac archaeoleg danddwr. Isadran Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw, ac mae'n gwarchod miloedd o safleoedd ledled y wlad ac yn darparu mynediad iddyn nhw, gan hybu dysgu ac ymgysylltu â'r gymuned. www.cadw.gov.uk
Y Comisiwn Brenhinol yw corff archwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae'r rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru'n cael ei chofnodi'n awdurdodol a'i deall yn iawn, ac mae'n ceisio hybu gwerthfawrogiad o'r dreftadaeth hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. www.rcahmw.gov.uk
Amcan Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo addysg y cyhoedd; yn bennaf trwy gynrychioli gwyddoniaeth, y celfyddydau, diwydiant, hanes a diwylliant Cymru, neu sy'n berthnasol i Gymru, yn gynhwysfawr. www.museumwales.ac.uk/en/home
Mae swyddfeydd cofnodion lleol yn dal cyfoeth o wybodaeth gan gynnwys mapiau hanesyddol, cynlluniau stadau, catalogau gwerthiannau, gweithredoedd a chofnodion cwmnïau sydd ar gael ar gyfer ymgynghori. Ewch i'w gwefannau i ddysgu mwy; mae gan rai ohonyn nhw gatalogau ar-lein ar gael i edrych arnyn nhw neu eu chwilio.
www.swansea.gov.uk/westglamorganarchives
www.archiveswales.org.uk/plan-your.../gwent-record-office
Dynodwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957. Mae gwaith y parc yn cynnwys gwarchod harddwch naturiol y Parc, gan helpu ymwelwyr i fwynhau a deall y Parc a meithrin lles pobl leol. www.breconbeacons.org
Porth i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol lleol a chenedlaethol Lloegr yw Heritage Gateway. www.heritagegateway.org.uk
Mae PastScape yn ffordd gyflym a rhwydd i chwilio bron i 400,000 o gofnodion sy'n cael eu dal ar gronfa ddata Amgylchedd Hanesyddol Cenedlaethol Lloegr. www.pastscape.org.uk