Dechreuodd Harri’r Wythfed gael gwared â mynachlogydd, a daeth y Ddeddf Uno gyntaf a oedd yn rhwymo Cymru i Loegr i rym ym 1536, a dyma sy’n nodi dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Ailddefnyddiwyd llawer o gestyll canoloesol yn amddiffynnol am y tro olaf yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng 1642 a 1648. Daeth newid anferthol i Gymru yn sgil y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif (1700au) wrth i’w heconomi, a oedd cyn hynny wedi’i seilio ar amaethyddiaeth yn bennaf, ddatblygu’n ddiwydiannol ac yn fasnachol, ac ehangodd maint ei threfi’n fawr.