Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid Brydain yn 43OC a chwblhawyd gorchfygu Cymru erbyn 77OC. Parhaodd Prydain i fod dan reolaeth y Rhufeiniaid am bron i 400 o flynyddoedd, a thynnwyd y fyddin yn ôl i amddiffyn tiriogaethau ar y cyfandir yn 410OC. Codwyd cyfres o geyrydd gyda rhwydwaith o ffyrdd yn eu cysylltu er mwyn cadw rheolaeth ar y dalaith. Mae’n bosibl i fwyafrif y boblogaeth barhau i fyw yn debyg iawn i'w ffordd o fyw erioed, ond y tu allan i’r ceyrydd Rhufeinig, gwelwyd aneddiadau sifilaidd newydd o’r enw vici yn tyfu. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, gwelwyd cynnydd anferthol yn nifer yr arteffactau a oedd yn cael eu gwneud... a’u torri a’u colli!