Archwilio-the easy way to discover the archaeology of Wales through the records of the four Welsh Archaeological Trusts.

Archwilio banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Manwl gywirdeb a’r defnydd o ddata

Er bod Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod data Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) a ddarperir trwy Archwilio yn fanwl gywir, nid yw'n rhoi unrhyw warantau i ddefnyddwyr ynglyn ag unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddo. Llunnir y data ar y wefan yn barhaus o adnoddau amrywiol. Nid yw'r wybodaeth a ddarperir trwy Archwilio felly'n ffynhonnell ddiffiniol ond yn hytrach mae'n adlewyrchu cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar y dyddiad y'u diweddarwyd ddiwethaf. Yn anad dim, mae yna lawer o safleoedd wedi'u cofnodi yn y gronfa ddata na fu unrhyw un yn ymweld â nhw yn y maes neu'n defnyddio unrhyw fodd arall i'w dilysu fel cofnodion gwir a manwl gywir. O'r herwydd, nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn addas i'w defnyddio yn y broses gynllunio, nac wrth gynhyrchu cytundebau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol neu gynlluniau rheoli tir eraill. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â staff CAH yn yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru berthnasol yn uniongyrchol. Felly bydd angen yn aml galw ar wasanaethau archaeolegydd profiadol i fwrw amcan o arwyddocâd llawn safleoedd penodol sydd wedi'u rhestru yn y cofnodion.

Cofiwch nad yw'r wybodaeth am safleoedd sydd dan warchodaeth gyfreithiol ar y wefan hon yn ddiffiniol. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Cadw i gael gwybodaeth ac arweiniad diffiniol.

Y Gymraeg

Yn achos cofnodion a grëwyd cyn Ebrill 2016, dim ond yn y Saesneg y mae gwybodaeth destunol lawn y cofnodion ar hyn o bryd. Mae cofnodion newydd sydd wedi'u creu ar ôl mis Ebrill 2016 ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n bosibl defnyddio'r wefan, gan gynnwys y rhyngwyneb chwilio, yn y ddwy iaith a gellir edrych ar wybodaeth cofnodion sydd â labeli, teitlau a data (wedi'u creu o 1af Ebrill 2016 ymlaen) yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent