Gorfododd y Normaniaid arf newydd ar dirwedd Cymru, sef y castell, a buan y gwnaeth Tywysogion Cymru eu hefelychu wrth iddyn nhw ymladd yn erbyn y goresgynwyr, ac yn erbyn ei gilydd. Ar ei ffurf gynharaf, twmpath o bridd (y mwnt) â thwr pren ar ei ben oedd hwn, yn aml gyda lloc â chlawdd a ffos (y beili) o'i amgylch. Datblygodd y castell cerrig o hyn, a daeth yn fwyfwy cymhleth o’r naill ganrif i’r nesaf. Sefydlwyd Bwrdeistrefi, lle gellid rheoli a threthu marchnadoedd, y tu allan i gestyll, a chyn bo hir roedd y rhain wedi tyfu i ddod yn drefi. Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd yr eglwys yn dod i’r amlwg fel adeilad a sefydliad, gydag eglwysi cadeiriol a mynachlogydd hyfryd y rhai pwysicaf o’u plith.