Nod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent yw darparu catalog cynhwysfawr o safleoedd archaeolegol a hanesyddol hysbys ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Mae'r cofnodion yn cael eu diweddaru byth a hefyd, ac yn cael eu hehangu wrth i wybodaeth newydd ddod i'r fei.
Mae'r wybodaeth a ddelir yn y CAH ar gael i bawb sydd â diddordeb, fel ymchwilwyr personol neu academaidd, grwpiau hanes lleol, myfyrwyr a phlant ysgol. Mae Archwilio nawr yn galluogi cynulleidfa fwy nag erioed o'r blaen i gyrchu'r wybodaeth.
Trwy ymweld â'r Ymddiriedolaeth, gellir holi CAH trwy system gwybodaeth ddaearyddol, ac mae cronfa ddata gynhwysfawr a chasgliad o fwy na 7,000 o ffeiliau papur sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am safleoedd penodol, gan gynnwys adroddiadau ar waith cloddio ac asesu, dogfennau, cynlluniau, mapiau a ffotograffau, yn ei gefnogi. Mae llyfrgell gyfeirio o destunau a chyfnodolion archaeolegol hefyd ar gael.
Addysgu'r cyhoedd mewn archaeoleg yw prif nod yr Ymddiriedolaeth, ac mae'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn adnodd hanfodol ar gyfer hyn. Mae'r CAH yn darparu man cyswllt canolog ar gyfer unigolion neu grwpiau sy'n ymchwilio i archaeoleg eu hardal leol yn Ne-ddwyrain Cymru. Byddwn yn aml yn mynd â'r cofnod digidol 'ar daith' i sioeau a digwyddiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o archaeoleg a rhoi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd am eu treftadaeth.
Mae'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol hefyd yn chwarae rôl hanfodol mewn rheoli treftadaeth, hwyluso rheoli safleoedd unigol yn ogystal â'r dirwedd fel cyfanwaith.
Defnyddir y cofnod hefyd i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau ynglyn â chynllunio a datblygu; gall swyddogion rheoli datblygiad roi cyngor ar sail y cofnod i awdurdodau cynllunio lleol a chontractwyr. Mae hyn yn caniatáu asesu effaith datblygiad ar yr adnodd archaeolegol yn ddigon manwl. Os ymgymerir â gwaith archaeolegol o ganlyniad i ddatblygiad, mae'r wybodaeth a ddaw i law o waith o'r fath yn cael ei bwydo'n ôl i'r CAH, gan ehangu'r cofnod i'w defnyddio yn y dyfodol.
Mynd i brif wefan GGAT yn www.ggat.org.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk