Dyma’r cyfnod pan ddefnyddiwyd haearn bwrw gyntaf, yn ychwanegol at y dechnoleg gweithio efydd hyn. Mae’n ymddangos bod magu da byw yn arbennig o bwysig yn yr oes hon, pan welwn datblygiad llwythau’n rheoli ardaloedd penodol o Brydain. Y safle hawsaf i’w adnabod o’r cyfnod hwn yw’r fryngaer, sef pentref amddiffynedig a chadarnle, ac mewn rhai mannau canolfan ar gyfer gweithio metel a chrefftau eraill. Ar dir is, byddai pobl hefyd yn byw ar ffermydd y byddai cloddiau a ffosydd, gyda ffensys pren (palisadau) ar eu pennau, yn eu hamddiffyn, ar arddull bryngeyrydd. Mae rhai pobl yn defnyddio’r ymadrodd Prydain Geltaidd wrth gyfeirio at Brydain yn yr oes hon, a Cheltiaid wrth gyfeirio at y bobl.