Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

GGAT banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-oo-il-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Manwl gywirdeb a'r defnydd o ddata

Er bod Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod data Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) a ddarperir trwy Archwilio yn fanwl gywir, nid yw'n rhoi unrhyw warantau i ddefnyddwyr ynglyn ag unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddo. Llunnir y data ar y wefan yn barhaus o adnoddau amrywiol. Nid yw'r wybodaeth a ddarperir trwy Archwilio felly'n ffynhonnell ddiffiniol ond yn hytrach mae'n adlewyrchu cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar y dyddiad y'u diweddarwyd ddiwethaf. Yn anad dim, mae yna lawer o safleoedd wedi'u cofnodi yn y gronfa ddata na fu unrhyw un yn ymweld â nhw yn y maes neu'n defnyddio unrhyw fodd arall i'w dilysu fel cofnodion gwir a manwl gywir. O'r herwydd, nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn addas i'w defnyddio yn y broses gynllunio, nac wrth gynhyrchu cytundebau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol neu gynlluniau rheoli tir eraill. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â'r CAH unigol yn uniongyrchol. Mewn sawl achos, mae'r cofnodion yn cynnwys crynodeb neu fynegai o wybodaeth sydd wedi'i chofnodi yn rhywle arall. Felly bydd angen yn aml galw ar wasanaethau archaeolegydd profiadol i fwrw amcan o arwyddocâd llawn safleoedd penodol sydd wedi'u rhestru yn y cofnodion.

Cofiwch nad yw'r wybodaeth am safleoedd sydd dan warchodaeth gyfreithiol ar y wefan hon yn ddiffiniol. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Cadw i gael gwybodaeth ac arweiniad diffiniol.

Y Gymraeg

Mae'r wybodaeth destunol lawn a gynhwysir yn y cofnodion ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ac felly mae'n rhaid nodi'r termau chwilio yn Saesneg. Fodd bynnag, gellir defnyddio fersiwn Gymraeg o'r rhyngwyneb chwilio a gellir edrych ar wybodaeth cofnodion â labeli a theitlau yn Gymraeg. Darllen datganiad Iaith Gymraeg GGAT.

Mynd i brif wefan GGAT yn www.ggat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk