Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n hygyrch i bawb, ar yr un lefel ac yn gyfartal. Mae ein gwefan wedi'i chynllunio i'w gwneud mor rhwydd â phosibl i bawb ei defnyddio, gan gynnwys pobl ag anableddau.
Mae'r mwyafrif o borwyr rhyngrwyd yn cynnwys nodwedd sy'n ei gwneud yn bosibl ichi newid maint y testun ar y sgrin. Mae ein gwefan wedi'i chynllunio i weithio gyda'r nodweddion hyn.
Gallwch yn aml newid maint y testun trwy gadw'ch bys ar Ctrl ar eich bysellfwrdd a rholio'r olwyn ar eich llygoden. Gwelwch isod i gael dulliau eraill.
Mae ein gwefan wedi'i chynllunio i gydymffurfio â'r holl safonau ac argymhellion technegol perthnasol. Mae rhai o'r rhain wedi'u rhestru isod.
Ein nod yw cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 o ran darparu gwasanaethau ar-lein, yn unol â gofynion y Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae'r Ddeddf hon yn nodi'n ddiamwys bod yn rhaid i wefannau'r sectorau preifat a chyhoeddus fod yn hygyrch.
Mynd i brif wefan GGAT yn www.ggat.org.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk