Caiff y polisi Preifatrwydd a Chwcis hwn ei adolygu, ac o bosibl ei ddiwygio, o bryd i'w gilydd. Efallai y byddwch chi eisiau ailedrych arno'n rheolaidd.
Pan ddefnyddir y gair 'ni' yn y polisi hwn, mae'n cyfeirio at Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.
Os byddwch chi'n pori'r wefan hon, ni ddatgelir pwy ydych chi'n gyhoeddus. Mae defnyddwyr y wefan yn gallu cyfrannu at sawl Blog. Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n cymedroli'r hyn sy'n cael ei anfon i'r blogiau hyn ac maent yn cadw'r hawl i beidio â chyhoeddi cyflwyniadau, yn unol â Pholisi Cymedroli Gwefan Archwilio.
Ni roddir gwybod pwy yw defnyddwyr y wefan ar hyn o bryd, oni bai eu bod wedi anfon gwybodaeth trwy gwci (gwelwch Defnyddio Cwcis isod). Nid yw Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n storio nac yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd. Nid yw Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar hyn o bryd yn defnyddio unrhyw broses, fel proses Mewngofnodi Defnyddwyr, lle gellir adnabod defnyddwyr trwy eu cyfeiriad IP. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod cwcis trydydd parti ar wefan Archwilio'n casglu'r wybodaeth hon (gwelwch isod).
Darn o ddata y mae gwefan yn ei storio o fewn porwr yw cwci, neu gwci HTTP, cwci gwe, neu gwci porwr i roi enwau eraill arno. Yna, ar ôl ei storio, bydd y porwr yn anfon hwn yn ôl i'r un wefan. Mae cwcis wedi'u cynllunio i fod yn fecanwaith dibynadwy i wefannau gofio pethau y mae porwr wedi'u gwneud yn y gorffennol, sy'n gallu cynnwys clicio ar fotymau penodol, mewngofnodi, neu ddarllen tudalennau ar y wefan honno fisoedd neu flynyddoedd yn ôl.
Mae cwcis yn gallu storio gwybodaeth amrywiol iawn, gan gynnwys gwybodaeth y mae'n bosibl eich adnabod ohoni (fel eich enw, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn). Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth hon y mae'n bosibl ei storio – ni all gwefannau gyrchu gwybodaeth dydych chi heb ei rhoi iddynt, ac ni allant gyrchu ffeiliau eraill ar eich cyfrifiadur.
Bydd y mwyafrif o borwyr rhyngrwyd yn rhoi opsiwn i wahardd cwcis. Fel rheol, gallwch chi ddysgu sut i wneud hyn yn y dewislen help ar gyfer eich porwr. Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r porwr rhyngrwyd i ddileu cwcis, ond mae'n rhaid ichi eu gwahardd neu fe fyddant yn cael eu rhoi ar waith eto y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â gwefan.
Dim ond gwybodaeth nad oes modd eich adnabod ohoni y mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n ei chasglu (e.e. patrymau ymddygiad ymwelwyr pan maent yn dod i'n gwefan). Caiff hon ei chasglu ar ein rhan er mwyn gwerthuso ein gwefan a sicrhau bod ein gwefan a'n gwasanaethau'n rhedeg yn iawn.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yma
Cwcis y mae un gwefan yn eu gosod, ond y mae gwefan arall yn gallu eu darllen, yw cwcis trydydd parti.
Google Analytics
Mae gwefan Archwilio'n defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we y mae Google, Inc. yn ei ddarparu. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso'ch ffordd o ddefnyddio'r wefan, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch. Mae Google yn storio'r wybodaeth y mae'r cwci wedi'i chasglu ar weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fo galw gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fo'r cyfryw drydydd partïon yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu'ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill y mae Google yn eu dal. Trwy ddefnyddio gwefan Archwilio, rydych chi'n cydsynio i Google brosesu data amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion y manylir arnynt uchod. Sut i wahardd neu ddileu'r cwci hwn
Offerynnau Rhannu GGAT
Hoffem ddwyn eich sylw at y ffaith bod gwefan Archwilio hefyd yn cynnwys botymau 'rhannu' wedi'u mewnblannu i alluogi defnyddwyr y wefan i rannu erthyglau'n rhwydd â ffrindiau trwy nifer o rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd. Mae'n bosibl y bydd y gwefannau hyn yn gosod cwci pan fyddwch chi wedi mewngofnodi hefyd i'w gwasanaeth nhw. Nid yw Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n rheoli'r modd o ledaenu'r cwcis hyn ac fe ddylech chi edrych ar ragor o wybodaeth am y rhain ar y wefan trydydd parti berthnasol.
Wordpress
Gwefan lle gallwch chi gyhoeddi'ch blogiau eich hun yw Wordpress, ac mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n defnyddio hwn i gael adborth am wefan Archwilio a'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Mae Wordpress yn gosod cwci i werthuso'ch ffordd o ddefnyddio'r wefan, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch. Nid yw Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n rheoli'r modd o ledaenu'r cwcis hyn ac fe ddylech chi edrych ar ragor o wybodaeth am y rhain ar y wefan trydydd parti berthnasol.
Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n defnyddio nifer o gyflenwyr sydd hefyd yn gosod cwcis ar wefan Archwilio ar eu rhan, er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwcis y mae'r cyflenwyr hyn yn eu defnyddio, yn ogystal â gwybodaeth am sut i optio allan, gwelwch eu polisïau preifatrwydd unigol.
Enw'r Cwci | Diben |
---|---|
__utma | Google Analytics -Gwasanaeth olrhain y mae Google, Inc. yn ei ddarparu. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso'ch ffordd o ddefnyddio gwefan GGAT, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch |
__utmb | Google Analytics -Gwasanaeth olrhain y mae Google, Inc. yn ei ddarparu. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso'ch ffordd o ddefnyddio gwefan GGAT, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch. |
__utmc | Google Analytics -Gwasanaeth olrhain y mae Google, Inc. yn ei ddarparu. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso'ch ffordd o ddefnyddio gwefan GGAT, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch. |
__utmz | Google Analytics -Gwasanaeth olrhain y mae Google, Inc. yn ei ddarparu. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso'ch ffordd o ddefnyddio gwefan GGAT, ac yn llunio adroddiadau ar ein cyfer ynglyn â gweithgarwch. |
__uset | Sharethis.com - Yn galluogi defnyddwyr y wefan i rannu erthyglau'n rhwydd trwy nifer o rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd. |
__stid | Sharethis.com - Yn galluogi defnyddwyr y wefan i rannu erthyglau'n rhwydd trwy nifer o rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd. |