Archwilio-the easy way to discover the archaeology of Wales through the records of the four Welsh Archaeological Trusts.

Archwilio banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Sut gallwch chi ein helpu

Rydym yn ymdrechu i gadw’r CAH mor gyfoes, cyflawn a manwl gywir â phosibl, ond mewn ardaloedd mor helaeth gyda chynifer o safleoedd, nid yw hyn yn hawdd. Rydym felly’n annog pawb i’n helpu i gyflawni hyn yn y ffyrdd a ganlyn:

  • Os ydych wedi edrych ar ddata ar-lein, neu os ydym wedi anfon data atoch a chithau’n gweld bod y wybodaeth yn anghywir, rhowch wybod i ni
  • Os ydych yn ymchwilio i unrhyw agwedd ar archaeoleg yn ardaloedd ein Hymddiriedolaethau unigol, byddem yn ddiolchgar pe baech yn gadael i ni weld eich canlyniadau er mwyn i ni allu diwygio ein cofnodion i’w hadlewyrchu

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod am ddarganfyddiadau newydd o fewn ardaloedd ein Hymddiriedolaethau. Os byddwch yn dod ar draws arteffact neu safle rydych yn meddwl nad ydym eisoes yn ymwybodol ohono, byddem yn falch o glywed oddi wrthych.

Beth yw Archwilio?

Fe gyflwynodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu cofnod o'r amgylchedd hanesyddol (CAH) ynghyd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, ac i sicrhau ei fod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf. Mae Archwilio'n ei gwneud hi'n bosibl cyrchu'r wybodaeth graidd hon am amgylchedd hanesyddol Cymru ar-lein, ac mae deunydd pellach y mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru yn ei ddal yn ategu hyn.

Mae'r pedair Ymddiriedolaeth wedi bod yn casglu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol ynghyd ac yn eu cynnal ers y 1970au. Mae'r Ymddiriedolaethau nawr yn gwneud y gwaith hwn ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r cofnodion yn darparu mynegai cynhwysfawr i safleoedd archaeolegol a hanesyddol, darganfyddiadau ac ymchwiliadau o bob cyfnod ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae'r Cofnodion ar y cyd yn cynnwys cofnodion ynglyn â thua 200,000 o asedau unigol a bron 100,000 o ymchwiliadau, mewn cronfeydd data sy'n cael eu diweddaru'n barhaus ac sy'n cael eu hehangu wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael. Mae´r CAH yn defnyddio'r wybodaeth i gyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau, gan gynnwys cynorthwyo â rheoli a chyflwyno'r dirwedd hanesyddol yn gadarnhaol a rheoli gwaith datblygu, ac mae'n ffynhonnell i'w defnyddio ar gyfer prosiectau hanes, cadwraeth a thwristiaeth lleol.

Mae pob CAH yn cwmpasu pob agwedd ar weithgarwch dynol yn y dirwedd, o ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol i amseroedd diweddar. Gellir dod o hyd i fanylion safleoedd tra hysbys a rhai llai hysbys, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchir trwy brosiectau archaeolegol sy'n mynd rhagddyn nhw yn yr ardal. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwilio i'ch ardal leol, neu ddarganfod mwy am gyfnod hanesyddol penodol, mae hwn yn lle da i ddechrau.

Dylai defnyddwyr masnachol CAH gysylltu â'r ymddiriedolaeth archaeolegol berthnasol i gael cyngor ar ba wybodaeth bellach allai fod ar gael ar ben y wybodaeth sydd i'w gweld yn Archwilio. Mae dolen i wneud ymholiad i'r ymddiriedolaeth berthnasol ar gael yma.

Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru

Cwmnïau Cyfyngedig annibynnol ac Elusennau Cofrestredig yw pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Fe'u sefydlwyd yng nghanol y 1970au â'r prif nod o hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Mae'r Ymddiriedolaethau'n cydweithio'n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i ddiogelu, cofnodi a dehongli pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol, a sicrhau bod y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd. Rydym yn cyflogi staff archaeolegol proffesiynol sydd ag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

Rydym yn cynnal y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Mae pob un o'r Ymddiriedolaethau'n dal gwybodaeth sylweddol ychwanegol sy'n ategu'r wybodaeth graidd sydd ar gael trwy Archwilio. Mae ymchwilwyr preifat ac academaidd yn cyfeirio at y wybodaeth, ond mae hefyd yn hanfodol i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ei defnyddio er mwyn rhoi cyngor strategol, a hefyd er mwyn cefnogi rheoli achosion pan fo cynigion datblygu, cynlluniau amaeth-amgylcheddol a chynlluniau coedwigoedd a choetiroedd yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r Ymddiriedolaethau hefyd yn cwblhau amrywiaeth eang o brosiectau archaeolegol ar gyfer cyrff y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys asesu effeithiau amgylcheddol, cynnal arolygon maes, gwneud gwaith cloddio a dehongli treftadaeth.

Canllawiau ar gasglu CAH ynghyd a'u defnyddio

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae rhai cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru:

  • yn gallu cyfrannu at gasglu cofnodion amgylchedd hanesyddol ynghyd a chynorthwyo i sicrhau eu bod nhw'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf
  • a sut y dylen nhw ddefnyddio cofnodion amgylchedd hanesyddol wrth gwblhau eu swyddogaethau

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen ganllawiau hon

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent