I gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â hanes ac archaeoleg Cymru, neu i weld casgliadau cofnodion eraill, dewiswch ddolen isod.
Cadw sy'n gyfrifol am warchod amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol, ac archaeoleg danddwr. Mae Cof Cymru yn sicrhau bod modd cyrchu rhestr o asedau treftadaeth cenedlaethol ar-lein. Isadran Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw, ac mae'n gwarchod miloedd o safleoedd ledled y wlad ac yn darparu mynediad iddyn nhw, gan hybu dysgu ac ymgysylltu â'r gymuned. www.cadw.wales.gov.uk
Y Comisiwn Brenhinol yw corff archwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae'r rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru'n cael ei chofnodi'n awdurdodol a'i deall yn iawn, ac mae'n ceisio hybu gwerthfawrogiad o'r dreftadaeth hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. wwww.cbhc.gov.uk
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) o ddata y mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru'n eu dal. Mae Coflein yn caniatáu cyrchu manylion miloedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd morol yng Nghymru, ac yn darparu mynegai i ddarluniau, llawysgrifau a ffotograffau sy'n cael eu dal yng nghasgliadau archif CHCC. www.coflein.gov.uk
Mae CBHC hefyd yn cynnal porth Cymru Hanesyddol sy'n caniatáu chwilio cannoedd o filoedd o gofnodion ar yr un pryd, sef cofnodion sy'n ymwneud â henebion archaeolegol, adeiladau hanesyddol ac arteffactau y mae gwahanol sefydliadau ledled Cymru'n eu dal. Mae hyn yn cynnwys y rheini y mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a CBHC yn eu dal, yn ogystal â data Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig y mae Cadw'n eu dal, a chofnod darganfyddiadau Amgueddfa Cymru. www.cymruhanesyddol.gov.uk
Amcan Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo addysg y cyhoedd; yn bennaf trwy gynrychioli gwyddoniaeth, y celfyddydau, diwydiant, hanes a diwylliant Cymru, neu sy'n berthnasol i Gymru, yn gynhwysfawr. www.amgueddfa.cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n dal y casgliad mwyaf yn y byd o ddeunydd printiedig, darluniau, mapiau a deunydd archif sy'n ymwneud â Chymru. Mae'r wefan yn cynnwys llawer iawn o adnoddau sydd wedi'u digidoli (gan gynnwys Cylchgronau Cymru Ar-lein a'r Bywgraffiadur Ar-lein), catalog o'i chasgliadau materol a ffynonellau ar gyfer haneswyr teulu. www.llgc.org.uk
Mae Cylchgronau Cymru Ar-lein yn darparu mynediad di-dâl i ysgolheictod o Gymru, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd. http://welshjournals.llgc.org.uk
Mae gan Archifau Cymru fwy na 7000 casgliad o gofnodion hanesyddol mewn 21 archif ledled Cymru. Mae'r wefan yn darparu porth chwiliadwy i'r casgliadau hyn. archifau.cymru
Mae gan y gorffennol gyfrinachau cudd o hyd, ac mae'n rhaid parhau i ehangu gwybodaeth am adeiladau, henebion a thirweddau Cymru. Mae'r fframwaith ymchwil yn gwerthuso'r pethau sydd eisoes wedi'u cyflawni ac yn nodi rhai cwestiynau allweddol sydd heb eu hateb hyd yma. www.archaeoleg.org.uk
Elusen addysgol yw'r Cyngor Archaeoleg Brydeinig sy'n gweithio ledled y DU i gynnwys pobl mewn archaeoleg ac i hybu gwerthfawrogiad a gofal am yr amgylchedd hanesyddol er budd cenedlaethau heddiw ac yfory. new.archaeologyuk.org
Mae Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA) yn hyrwyddo ymarfer archaeoleg a disgyblaethau cysylltiedig drwy hybu moeseg a safonau proffesiynol ar gyfer cadw, rheoli, deall a hybu mwynhau treftadaeth. www.archaeologists.net
Mae'r Gwasanaeth Data Archaeolegol (ADS) yn cefnogi ymchwilio, dysgu ac addysgu ag adnoddau digidol dibynadwy o safon. Mae'n gwneud hyn trwy gadw data digidol yn y tymor hir, a thrwy hybu a lledaenu amrywiaeth eang o ddata ym maes archaeoleg. Mae'r ADS yn hybu arfer da wrth ddefnyddio data digidol ym maes archaeoleg, mae'n rhoi cyngor technegol i'r gymuned ymchwilio ac yn cefnogi rhoi technolegau digidol ar waith. ads.ahds.ac.uk
Cynllun gwirfoddol yw'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, ar gyfer cofnodi gwrthrychau archaeolegol y daw aelodau o'r cyhoedd o hyd iddyn nhw yng Nghymru a Lloegr. Bob blwyddyn, mae miloedd o wrthrychau'n cael eu darganfod, llawer ohonyn nhw gan bobl sy'n defnyddio datgelyddion metel, ond hefyd gan bobl sy'n mynd am dro, sy'n garddio neu sy'n gwneud eu gwaith beunyddiol. Mae darganfyddiadau o'r fath yn cynnig ffynhonnell bwysig i ddeall ein gorffennol. www.finds.org.uk
Porth i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol lleol a chenedlaethol Lloegr yw Heritage Gateway. www.heritagegateway.org.uk
Mae PastScape yn ffordd gyflym a rhwydd i chwilio bron i 400,000 o gofnodion sy'n cael eu dal ar gronfa ddata Amgylchedd Hanesyddol Cenedlaethol Lloegr. www.pastscape.org.uk
Canmore yw casgliad cenedlaethol yr Alban o adeiladau, archaeoleg a diwydiant. www.canmore.org.uk
System ymholiadau lle defnyddir map yw Pastmap, ar gyfer set data archaeolegol a phensaernïol cenedlaethol a rhanbarthol yr Alban. www.pastmap.org.uk/