Archwilio-the easy way to discover the archaeology of Wales through the records of the four Welsh Archaeological Trusts.

Archwilio banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Amodau Defnyddio Cyffredinol

  • Bwriedir i bobl ddefnyddio gwybodaeth a geir o Archwilio at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil yn unig, ac ni ddylid ei defnyddio at ddibenion rheoli gwaith datblygu neu fel rhan o brosiect masnachol. Dylid cyfeirio ymholiadau o'r fath yn uniongyrchol at staff yn yr ymddiriedolaeth berthnasol trwy dudalen Ymholiadau'r Ymddiriedolaeth honno
  • Ni cheir trosglwyddo gwybodaeth a sicrheir o Archwilio i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig*
  • Y defnyddwyr fydd yn gyfrifol am wirio bod y wybodaeth a sicrheir o Archwilio yn gywir
  • Hawlfraint Ymddiriedolaethau Archaeolegol unigol Cymru yw cynnwys a strwythur data Archwilio oni bai y nodir yn wahanol
  • Rhaid sicrhau caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf brintiedig neu amlgyfrwng neu i lunio adnoddau at ddefnydd masnachol
  • Bydd disgwyl i ddefnyddwyr Archwilio ufuddhau i'r holl gyfyngiadau hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol eraill a allai fod yn berthnasol i wybodaeth a ddelir yn y cofnod
  • Mae gofyn i ddefnyddwyr gydnabod eu bod wedi defnyddio Archwilio mewn unrhyw ddogfen neu adroddiad cyhoeddedig

* Mae cyfraith hawlfraint yn diogelu gwybodaeth a gynhwysir yn Archwilio a rhaid i'r defnyddiwr beidio â'i hatgynhyrchu, ei chopïo, ei throsglwyddo, ei gwerthu, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei benthyca na'i throsglwyddo fel arall ar ffurf data neu mewn fformat ysgrifenedig i drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru y mae'n tarddu ohoni.

Edrychwch ar y Polisi Mynediad i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a'r Polisi Adfer Costau ar gael yma am ragor o wybodaeth am fynediad a phris.

Mynediad a Difrod i Safleoedd Hanesyddol neu Archaeolegol

Nid yw'r ffaith bod nodwedd archaeolegol neu adeilad wedi'i gynnwys yn Archwilio yn golygu bod gan y cyhoedd unrhyw hawl i gael mynediad i'r safle neu'r heneb honno. Mae'r mwyafrif ohonyn nhw ar dir sydd dan berchnogaeth breifat, ac mae'n rhaid ceisio caniatâd bob amser cyn ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw. Nid yw Gweinidogion Cymru ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru'n derbyn (i'r graddau y mae'r gyfraith yn caniatáu) unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod, sut bynnag y mae'n codi o ddefnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio, ac ni dderbynnir unrhyw hawliadau am iawndal neu esgeulustod. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i'r Dudalen Ymwadiad.

Rhaid peidio â defnyddio'r wybodaeth a gynhwysir yn Archwilio at ddibenion sy'n difrodi, neu a allai arwain at ddifrodi, safleoedd archaeolegol, adeiladau a thirweddau hanesyddol. Yn anad dim, mae'r gyfraith yn gwarchod Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig, ac mae eu difrodi'n anghyfreithlon: hefyd, ni ddylid dechrau gwaith sy'n effeithio arnyn nhw heb y caniatâd perthnasol.

Cysylltwch â Cadw'n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig.

Cadw is the Welsh Government's historic environment division
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent