Alan Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn lansio Archwilio yn y Gynhadledd Treftadaeth ar 1af Gorffennaf yn Abertawe.
Mae'r system yn rhoi mynediad at dros 100,000 o gofnodion a gedwir gan bedair ymddiriedolaeth archaeolegol Cymru. Dywedodd y Gweinidog "Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i ddarparu ei holl gofnodion archaeolegol ar-lein", a "bydd Archwilio yn gaffaeliad mawr nid yn unig i bobl Cymru ond hefyd i'r rheini sy'n bellach i ffwrdd sydd â diddordeb yn archaeoleg cyfoethog a threftadaeth ddiwylliannol ein gwlad". Ychwanegodd ei fod yn hynod o falch o weld sefydliadau annibynnol yn datblygu systemau a fydd yn mynd ati i roi sylw i rai o nodau'r Datganiad Strategol ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2009.