Archwilio-the easy way to discover the archaeology of Wales through the records of the four Welsh Archaeological Trusts.

Archwilio banner
Listen to the pronuncation of Archwilio

Archwilio [Ar-ch-wil-ee-o] vb, to explore, examine, audit

Gwefannau Ymddiriedolaethau

Clwyd-Powys

Dyfed

Morgannwg-Gwent

Gwynedd

Amdanom Ni

Elusennau addysgol a chwmnïau cyfyngedig yw pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Fe’u sefydlwyd yng nghanol y 1970au â’r brif nod o hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Mae’r Ymddiriedolaethau’n cydweithio’n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill er mwyn cynorthwyo i ddiogelu, cofnodi a dehongli pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol, a sicrhau bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd. Ein hamcan yw hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn archaeoleg. Rydym yn cyflogi staff archaeolegol proffesiynol ag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

Rydym yn cynnal y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (CAH) rhanbarthol, ac yn cael ein blaendalu gan Awdurdodau Unedol a sefydliadau eraill i roi cyngor strategol, ac i gefnogi rheoli achosion lle mae cynigion datblygu a chynlluniau amaeth-amgylcheddol, coedwigaeth a choetiroedd yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol. Rydym hefyd yn cwblhau amrywiaeth eang o brosiectau archaeolegol ar gyfer y cyhoedd a chyrff y sector preifat, gan gynnwys asesu effeithiau amgylcheddol, cynnal arolygon maes, gwneud gwaith cloddio a dehongli treftadaeth.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent