Nod Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Gwynedd (sef y Cofnod Safleoedd a Henebion gynt) yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr ynglyn â thirweddau, arteffactau, adeiladau, henebion a safleoedd archaeolegol a hanesyddol hysbys gogledd-orllewin Cymru. Mae'n cwmpasu hen sir Gwynedd (sef Ynys Môn, Gwynedd a gorllewin Conwy bellach, ac yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri), ac mae'n dal mwy na 17500 o gofnodion a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau dros y 35 mlynedd diwethaf. Staff CAH Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd sy'n ei gynnal a'i ddiweddaru.
Mae'r CAH yn cwmpasu pob agwedd ar weithgarwch dynol yn y dirwedd o ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol i'r ugeinfed ganrif, a hynny heb ragfarn. Gellir dod o hyd i fanylion safleoedd tra hysbys a rhai llai hysbys, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchir trwy brosiectau archaeolegol sydd wedi mynd rhagddyn nhw yn yr ardal.
Delir gwybodaeth ar ffurf cronfa ddata gyfrifiadurol gyda mapiau digidol (a GIS) ategol. Ar ben hyn, ceir casgliadau o fapiau a chofnodion papur (gan gynnwys manylion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig), sleidiau, ffotograffau (ffilm a digidol; o'r ddaear ac o'r awyr), a mapiau hanesyddol. Mae llyfrgell gyfeirio helaeth o destunau a chyfnodolion perthnasol hefyd ar gael i'r CAH.
A nawr gallwch gyrchu cofnodion y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn eu dal trwy wefan Archwilio!
I gael mwy o wybodaeth am y rhesymau dros ddatblygu CAH, gwelwch http://www.heneb.co.uk/her/herwhy.html
Mynd i brif wefan GAT yn www.heneb.co.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk